Sefydliad y Cawr Cwsg

Sefydliad y Cawr Cwsg - Cartref Cyfryngau Newydd Hanes Llafar Newyddion Amdanom Ni

Prosiect Hanes Llafar

Cynlluniwyd Prosiect Hanes Llafar Sefydliad y Cawr Cwsg i gofnodi atgofion cenhedlaeth hyn ein cymuned, gan edrych yn arbennig ar fywyd cyn ac ar ôl yr ail ryfel byd.


Rydym yn lwcus i gael Grwp Hanes Llafar ymroddedig a hyfforddwyd gan Beth Thomas, Ceidwad Hanes Diwylliannol a Chymdeithasol Sain Ffagan, sut i ddefnyddio ein hoffer recordio ac mewn technegau cyfweld. Rydym bob amser yn croesawu pobl newydd i’r grwp ac rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan bobl a hoffai naill ai rhannu eu hatgofion neu a hoffai gyfweld â ffrind neu berthynas.

 

Oral History Interview

Abercraf Welfare Hall Opening

Carnival

Oral History Outing 2005

Mae’n bwysig bod yr atgofion hyn yn cael eu cofnodi. Mae atgofion y genhedlaeth hyn yn hanfodol i’n dealltwriaeth o’r gorffennol a’r ffordd y mae ein cymuned wedi ei llunio. Rhoddir y cofnodion hyn yn Adran Archif Cyngor Sir Powys ac yn Adran Hanes Diwylliannol a Chymdeithasol Sain Ffagan fel ei gilydd lle byddant ar gael i’r cyhoedd.


Mae’r Prosiect Hanes Llafar hefyd yn trefnu teithiau a sgyrsiau addysgol. Roedd gwibdeithiau blaenorol yn cynnwys teithiau i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe, ac i Langadog a Myddfai. Trefnwyd sgyrsiau gyda siaradwyr gan gynnwys Basil Jenkins.


Os oes diddordeb gennych ym Mhrosiect Hanes Llafar Sefydliad y Cawr Cwsg, mae croeso i chi ffonio’r swyddfa: 01639 731062.

 

 

 

Hanes Llafar

Cartref Cyfryngau Newydd Hanes Llafar Newyddion Amdanom Ni

© Sefydliad y Cawr Cwsg 2006

Sponsored by

Sponsored by the Welsh Assembly Government